David Trimble | |
---|---|
![]() | |
Llais | David Trimble BBC Radio4 Great Lives 14 August 2007 b007vzrt.flac ![]() |
Ganwyd | 15 Hydref 1944 ![]() Belffast ![]() |
Bu farw | 25 Gorffennaf 2022 ![]() Belffast ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, bargyfreithiwr ![]() |
Swydd | Leader of the Ulster Unionist Party, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Unoliaethol Ulster ![]() |
Tad | William Trimble ![]() |
Mam | Ivy Trimble ![]() |
Priod | Daphne Orr ![]() |
Plant | Nicholas Trimble ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel ![]() |
Gwefan | https://www.davidtrimble.org/ ![]() |
Gwleidydd Prydeinig oedd William David Trimble, Barwn Trimble o Lisagarney (15 Hydref 1944 – 25 Gorffennaf 2022)[1] a fu'n arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast ("Cytundeb Gwener y Groglith") yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arweinydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a John Hume o'r SDLP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon.[2]
Ym mis Mehefin 2006, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Trimble o Lisagarvey yn Swydd Antrim.[3] Yn Ebrill 2007, cyhoeddodd ei fod yn gadael yr UUP ac yn ymuno â Phlaid Geidwadol y DU.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Harold McCusker |
Aelod Seneddol dros Upper Bann 1990 – 2005 |
Olynydd: David Simpson |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon 1998 – 2001 |
Olynydd: Reg Empey (actio) |
Rhagflaenydd: Reg Empey (actio) |
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon 2001 – 2002 |
Olynydd: Dim (o 2007 Ian Paisley) |