Deddf Cydraddoldeb 2010

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig yw Deddf Cydraddoldeb 2010[1]. Mae ganddi'r un amcanion â phedwar prif Orchymyn Triniaeth Gyfartal yr UE ac adlewyrcha a gweithreda eu cyfarwyddyd.[2]

Prif bwrpas y Ddeddf yw cyfundrefnu'r ystod eang a chymhleth o Ddeddfau a Rheoliadau sy'n sylfaen i gyfraith gwrth-wahaniaethu yn y Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, y cyfreithiau hyn oedd y Ddeddf Tâl Cyfartal 1970, Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 a thri offeryn statudol yn atal gwahaniaethu ym myd gwaith ar sail crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a oed. Mae'n sicrhau triniaeth gyfartal ym myd gwaith ac o ran gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, waeth beth fo oed, anabledd, ailbennu rhywedd, partneriaethau priodasol neu sifil, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ceir amddiffyniadau arbennig ar gyfer menywod beichiog hefyd. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn caniatáu gwahardd pobl drawsryweddol rhag derbyn rhai gwasanaethau rhyw-benodol os yw hynny'n "fodd cymesurol o gyflawni nod dilys".[3] Mewn achosion o anabledd, mae gofyn i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i wneud addasiadau rhesymol i'w gweithleoedd er mwyn goresgyn anawsterau a brofir gan bobl anabl. Yn hynny o beth, ni wnaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 newid y gyfraith. Heblaw am ambell eithriad nid yw'r Ddeddf yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

  1.  Equality Act 2010.
  2. gweler Gorchymyn yr UE 2000/78/EC, 2000/43/EC, 2006/54/EC
  3. Equality Act sch.3, part 7, para 28

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne