Mewn damcaniaeth tebygolrwydd, mae'r ddeddf niferoedd mawr yn theorem sy'n disgrifio canlyniad perfformio'r un arbrawf nifer fawr o weithiau. Yn ôl y ddeddf, dylai cyfartaledd y canlyniadau a geir o nifer fawr o dreialon fod yn agos at y gwerth disgwyliedig, a byddant yn tueddu i ddod yn agosach at y gwerth disgwyliedig wrth i fwy o dreialon gael eu cynnal.[1]
Mae'r ddeddf yn bwysig oherwydd ei fod yn gwarantu canlyniadau tymor hir sefydlog ar gyfer cyfartaleddau rhai hapddigwyddiadau.[1][2] Er enghraifft, er y gallai casino colli arian mewn un droell o'r olwyn rwlét, bydd ei enillion yn tueddu tuag at ganran ragweladwy dros nifer fawr o droellon. Yn y pen draw, bydd paramedrau'r gêm yn goresgyn unrhyw gyfnod lwcus gan chwaraewr. Mae'n bwysig cofio bod y gyfraith ond yn berthnasol (fel y mae'r enw'n nodi) pan ystyrir nifer fawr o arsylwadau. Does dim egwyddor yn dweud bydd nifer fach o arsylwadau yn cyd-fynd â'r gwerth disgwyliedig, neu y bydd cyfnod lwcus yn cael ei "gydbwyso" ar unwaith gan gyfnod anlwcus (fe elwir hwn yn gamsyniad y gamblwr).