Enghraifft o: | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1916 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deddf a basiwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916.
Cyflwynwyd y bil a arweiniodd at y Ddeddf gan y Prif Weinidog H. H. Asquith yn Ionawr 1916. Daeth i rym ar 2 Mawrth 1916. Tan hynny roedd Llywodraeth Prydain wedi dibynnu ar ymrestru gwirfoddol, ac yn ddiweddarach ar fath o orfodaeth foesol o'r enw Cynllun Derby.
Creodd y drafodaeth ar orfodaeth filwrol hollt yn y Blaid Ryddfrydol gan gynnwys y Cabinet. Ymddiswyddodd Syr John Simon fel Ysgrifennydd Cartref ac ymosododd ar y llywodraeth yn anerchiad ei ymddiswyddiad yn Nhy'r Cyffredin, ble pleidleisiodd 35 o Ryddfrydwyr yn erbyn y bil, ynghyd ag 13 o ASau Llafur a 59 o Genedlaetholwyr Gwyddelig.[1]
Roedd y Ddeddf yn ei gwneud dynion rhwng 18 a 41 mlwydd oed yn agored i alwad i wasanaeth milwrol oni bai eu bod yn briod, yn weddw gyda phlant, yn gwasanaethu yn y Llynges, yn weinidog yr Efengyl, neu'n gweithio mewn rhai galwedigaethau penodol eraill. Cyflwynwyd ail Ddeddf ym Mai 1916 yn ymestyn gorfodaeth filwrol i gynnwys dynion priod, a thrydydd Deddf yn 1918 i ymestyn yr uchafswm oedran i 51.
Roedd dynion neu gyflogwyr oedd yn gwrthwynebu galwad unigolyn yn medru gwneud cais i Dribiwnlys Gwasanaeth Milwrol lleol. Roedd y cyrff hyn yn gallu eithrio unigolion rhag cael eu galw, fel arfer dan amodau neu dros dro. Roedd modd cyflwyno apel yn erbyn penderfyniad i Dribiwnlys Apel Sirol. Gorchmynwyd dinistrio holl gofnodion y tribiwnlysoedd yng Nghymru yn 1921, ond mae Cofnodion Tribiwnlys Sir Aberteifi wedi goroesi a bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Oherwydd ystyriaethau gwleidyddol nid oedd y Ddeddf yn berthnasol i Iwerddon, a oedd bryd hynny'n rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Cafwyd Argyfwng Gorfodaeth Filwrol yn 1918 pan geisiodd Llywodraeth Prydain gyflwyno gorfodaeth filwrol yn Iwerddon, gan arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i Sinn Féin.