Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
Enghraifft o:Deddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwydd yn dweud 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' tu allan i'r adeilad Senedd, o 6 Mai 2020 enwi'r ddeddfwrfa yn Senedd Cymru - Welsh Parliament, ond yn fwy aml dywed yn unig Senedd yn y ddwy iaith.

Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gafodd gydsyniad brenhinol ar 15 Ionawr 2020. Manylwyd arno gyntaf ym mis Chwefror 2019 trwy gyfrwng Memorandwm Esboniadol.[1] Cyflwynwyd y ddeddf gan Comiswn y Cynulliad dan arweiniad Elin Jones (Llywydd), ac yn rhan gyntaf o adnewyddiad cyfansoddiadol y Cynulliad, o ganlyniad i adroddiad panel 'Senedd sy'n gweithio i Gymru.'[2]

Mae'r Ddeddf am y tro cyntaf yng Nghymru yn rhoi hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, gan ddechrau gydag etholiad Senedd Cymru, 2021.[3] Dyma'r estyniad etholfraint fwyaf yng Nghymru ers 1969, pan ostyngodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1969 yr oedran pleidleisio o 21 i 18. Bydd yr etholfraint hefyd yn cael ei hymestyn i "wladolion tramor cymwys".

Mae'r Ddeddf hefyd yn newid enw'r ddeddfwrfa i "Senedd Cymru" neu "Welsh Parliament".[3] Roedd y penderfyniad yn ddadleuol a gwelwyd llawer o ddadlau yn y Siambr rhwng y rhai a oedd yn ffafrio'r enw sengl Senedd a'r rhai (dan arweiniad y cyn Prif Weinidog Carwyn Jones) a geisiodd gynnwys elfen ddwyieithog. Mae canllawiau a gyhoeddwyd yn dilyn pasio'r Ddeddf yn awgrymu bod y sefydliad i'w alw'n gyffredin fel y 'Senedd' yn Saesneg a Chymraeg.[4]

Mae'r gyfraith hefyd wedi'i newid fel bod unigolion sydd wedi'u gwahardd yn cael eu gwahardd rhag cymryd sedd yn y Senedd yn hytrach na chael eu gwahardd rhag sefyll i'w hethol,[3] a thrwy sicrhau bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu gan y Senedd ar gyfer etholiadau Cymru ac yn atebol iddynt.

Cytunwyd ar y Bil gan y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2019.[5] Daeth yn Ddeddf yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020.[6] Gweithredwyd cynnwys y ddeddf ar 6 Mai 2020, union blwyddyn cyn etholiad Senedd Cymru, 2021.[7]

  1. "Memorandwm Esboniadol" (PDF). Senedd.cymru.
  2. "Senedd sy'n gweithio i Gymru" (PDF).
  3. 3.0 3.1 3.2 "Hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio- diwrnod hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru". senedd.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-19. Cyrchwyd 2020-05-13.
  4. "Gwybodaeth Newid Ein Enw". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-25. Cyrchwyd 2020-05-13.
  5. "Bil Senedd ac etholiadau (Cymru) [FEL Y'I PASIWYD]" (PDF). Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  6. "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-14. Cyrchwyd 2020-05-13.
  7. "Enw newydd Senedd Cymru yn dod yn gyfraith". Golwg360. 2020-05-06. Cyrchwyd 2020-05-13.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne