Enghraifft o: | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 31 Rhagfyr 2008, 23 Ebrill 2009 ![]() |
Genre | ffilm ryfel, ffilm ddrama, ffilm yn seiliedig ar lyfr ![]() |
Cymeriadau | Tuvia Bielski, Alexander Zeisal Bielski, Asael Bielski, Aron Bielski, Adolf Hitler ![]() |
Prif bwnc | yr Ail Ryfel Byd, yr Holocost ![]() |
Lleoliad y gwaith | Gwlad Pwyl ![]() |
Hyd | 137 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Edward Zwick ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Edward Zwick ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Vantage, Edward Zwick ![]() |
Cyfansoddwr | James Newton Howard ![]() |
Dosbarthydd | Paramount Vantage, Netflix ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Eduardo Serra ![]() |
Gwefan | http://www.defiancemovie.com/ ![]() |
Mae Defiance (2008) yn ffilm ryfel Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Edward Zwick. Lleolir y ffilm yn ardaloedd dwyreiniol Gwlad Pwyl (Gorllewin Belarws bellach) pan oedd yr ardal o dan reolaeth y Natsiaid. Addasiad yw'r ffilm o Nechama Tec's Defiance: The Bielski Partisans, sy'n seiliedig ar stori wir yr herwfilwyr Bielski. Yn y llyfr, daeth Iddewon Pwylaidd at ei gilydd er mwyn amddiffyn ei hunain ac i wrthwynebu'r Almaen yn meddiannu eu tir.
Mae Defiance yn serennu Daniel Craig, Liev Schreiber, Jamie Bell, a George MacKay fel pedwar brawd Iddewig o Wlad Pwyl sy'n dianc rhag y Natsiaid ac sy'n ymladd yn ôl er mwyn ceisio achub bywydau eu cyd-Iddewon. Dechreuwyd ar y broses gynhyrchu ar ddechrau mis Medi 2007.