CROESO!
Fy enw i ydy Robin Llwyd ab Owain a bum yn gweithio fel Rheolwr Cymru i Wikimedia UK rhwng 01 Mehefin 2013 a 1 Medi 2024. Dw i'n Weinyddwr ers 18 Gorffennaf 2008 ac yn Fiwrocrat ers 22 Rhagfyr 2011. Arswydus swyddi! Dyma restr o fy ngolygiadau.
Dyma englyn neu ddau i'ch croesawu:
Wrth Ddarllen Llythyrau Owain Glyn Dŵr ar y Traeth yn Harlech ar Kindle
- O hen archoll anarchydd, - o galon
-
- I galon o'r newydd,
- Ar y we yn Gymry rhydd:
- O'r llenor i'r darllenydd.
ac un i Olygydd Wicipedia:
- Yn organig - rho ganwaith - y diolch
-
- Sy'n blodeuo'n berffaith:
- Rho yn ôl i'r hen, hen iaith
- Ei thwf, ei nerth a'i hafiaith...
Hyd yma cafwyd 13,436,349 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 95,303 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Ceir 16 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 5 golygiad) y mis diwethaf yn 121.
Y person diwethaf i olygu'r dudalen hon oedd a hynny ar 07-02-2025; dyddiad heddiw ydy: 7 Chwefror 2025. Mae'r wybodaeth byw a welir ar y dudalen hon yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio côd wici; ceir rhestr ohonyn nhw yn fama.