Degol

Tarddiad y system ddegol: deg bys ar ddwy law.
Y tabl lluosi degol cyntaf. Fe'i gwnaed o fambw oddeutu 305 CC, yn ystod Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar yn Tsieina.

Dull safonol o ddynodi rhifau yw'r system ddegol (a elwir hefyd yn system rhifol bôn 10, ac yn 'system ddegaidd'[1]) yw'r system safonol ar gyfer dynodi rhifau cyfanrif a rhan-rifau (non-integer). Mae'n cynnwys ymestyniad i system gynharach, sef y system rif Hindw-Arabeg.

Yn aml, cyfeirir at y ffordd o ddynodi rhifau yn y system degol fel "nodiant Degol". Fel arfer, mae'r term rhifau degol yn cyfeirio at y rhifau sy'n perthyn i'r system ddegol, boed yn gyfanrifau neu'n rhan-rifau ac sy'n cynnwys gwahanydd degol (er enghraifft, 10.00 neu 3.14159). Gall 'degol' hefyd gyfeirio at unrhyw ddigid ar ôl y gwahanydd degol, fel yn y gosodiad: "3.14 yw'r brasamcan o π i ddau rif degol (neu'n fwy cywir "i ddau ddegolyn").[2][3]

'Ffracsiynau degol' yw'r rhifau a gaiff eu cynrychioli o fewn y system ddegol, hy ffracsiynau o fath a/10n, ble mae a yn gyfanrif a n yn rhan-rif nad yw'n negatif.

Mae'r system ddegol wedi'i ymestyn i ddegolion diddiwedd (infinite decimals), er mwyn cynrychioli pob rhif real, trwy ddefnyddio dilyniant diddiwedd o ddigidau ar ôl y gwahanydd degol. Yn y cyd-destun hwn, mae'r degolion arferol weithiau'n cael eu galw'n "ôl-ddegolion" (terminating decimals).

Mae degolyn ailadroddol yn ddegolyn nad yw'n dod i ben sydd, wedi ychydig, yn ailadrodd am byth yr un gyfres o ddigidau. Er enghraifft, 5.123144144144144... = 5.123144. Mae degolyn diddiwedd yn cynrychioli rhif cymarebol os, a dim ond os, yw'n ddegol ailadroddol neu os oes ganddo nifer gyfyngedig o ddigidiau nonzero.

  1. Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 26 Awst 2018.
  2. The History of Arithmetic, Louis Charles Karpinski, 200pp, Rand McNally & Company, 1925.
  3. Lam Lay Yong & Ang Tian Se (2004) Fleeting Footsteps. Tracing the Conception of Arithmetic and Algebra in Ancient China, Revised Edition, World Scientific, Singapôr.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne