Degw

Degw
Octodon degus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Octodontidae
Genws: Octodon
Rhywogaeth: O. degus
Enw deuenwol
Octodon degus
(Molina, 1782)
Degw

Cnofil o deulu'r Octodontidae sy'n dod o Tsile yw'r Degw (Octodon degus). Fe'i ceir mewn coetir a phrysgwydd ar lethrau gorllewinol yr Andes. Mae'n byw mewn grwpiau mewn tyllau cymunedol. Mae'n bwydo ar laswellt, dail a hadau.

Mae'n cyrraedd hyd o tua 27 cm. Mae ganddo ben mawr, clustiau mawr a chynffon flewog hir. Mae'r ffwr yn frown ar y cefn a gwelw ar y bol.

Defnyddir y Degw mewn ymchwil wyddonol. Mae wedi dod yn boblogaidd fel anifail anwes yn ddiweddar.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne