Ardal fetropolitaidd yng ngogledd India yw Delhi, yn swyddogol Tiriogaeth y Brifddinas Genedlaethol (NCT), sydd hefyd yn 'diriogaeth undeb India' sy'n cynnwys Delhi Newydd, prifddinas India, Hen Ddelhi, a'u maestrefi.[1] Mae arwynebedd yr NCT yn 1,484 cilomedr sgwâr (573 metr sgwâr). Lleolir Delhi ar lannau Afon Yamuna rhwng talaith Uttar Pradesh i'r dwyrain a thalaith Haryana ar y tair ochr arall. Mae ganddi boblogaeth o tua 26,495,000 (2016)[2].[3] Bellach ystyrir bod ardal drefol Delhi yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau NCT, ac yn cynnwys dinasoedd-lloeren cyfagos Ghaziabad, Faridabad, Gurgaon a Noida mewn ardal o'r enw'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol (NCR), gan ei gwneud yn ardal drefol ail-fwyaf y byd (yn 2021) yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[4]
Delhi yw'r ddinas ail gyfoethocaf yn India ar ôl Mumbai ac mae'n gartref i 18 biliwnydd a 23,000 miliwnydd.[5] Delhi yw'r pumed talaith a thiriogaethau undeb yn India, o ran mynegai datblygiad dynol, ac mae ganddi’r CMC y pen (neu 'GDP per capita') ail uchaf yn India.[6]
Mae hi o arwyddocâd hanesyddol mawr fel dinas fasnachol, o ran trafnidiaeth ac yn ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn ganolfan wleidyddol India.[7] Mae Delhi yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, ac mae pobl wedi byw yno'n barhaus ers y 6g CC.[8] Trwy'r rhan fwyaf o'i hanes, mae Delhi wedi gwasanaethu fel prifddinas amryw o deyrnasoedd ac ymerodraethau, yn fwyaf arbennig y Pandavas, Swltaniaeth Delhi a'r Ymerodraeth Mughal. Mae'r ddinas wedi cael ei chipio, ei llorio a'i hailadeiladu sawl gwaith, yn enwedig yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae Delhi fodern yn glwstwr o nifer o ddinasoedd sydd wedi'u gwasgaru ar draws y rhanbarth metropolitan. Am ganrifoedd lawer mae Delhi wedi bod yn brif ganolfan fasnachol yng ngogledd India, ac ar ôl 1990au mae wedi dod i'r amlwg fel canolfan bwysig yn y rhwydwaith corfforaethol ac ariannol rhyngwladol.[9]
Fel 'tiriogaeth undeb', caiff ei rheoli'n ffederal gan Lywodraeth ganol India. Mae gweinyddiaeth wleidyddol NCT Delhi heddiw'n debyg i wladwriaeth India, gyda'i deddfwrfa ei hun, yr uchel lys a chyngor gweithredol gweinidogion dan arweiniad Prif Weinidog. Gweinyddir Delhi Newydd ar y cyd gan lywodraeth ffederal India a llywodraeth leol Delhi, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas y genedl yn ogystal â NCT Delhi. Cynhaliodd Delhi y Gemau Asiaidd cyntaf 1951, Gemau Asiaidd 1982, Uwchgynhadledd NAM 1983, Cwpan y Byd Hoci Dynion 2010, Gemau'r Gymanwlad 2010, Uwchgynhadledd BRICS 2012 ac roedd yn un o brif ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd Criced 2011.