Delmira Agustini | |
---|---|
Ganwyd | Delmira Agustini Murtfeldt 24 Hydref 1886 Montevideo |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1914 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Adnabyddus am | The Empty Chalices |
Arddull | barddoniaeth |
Mudiad | Modernismo, vanguardism |
Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Delmira Agustini (24 Hydref 1886 – 6 Gorffennaf 1914) sy'n nodedig am ei barddoniaeth ramantus yn nechrau'r 20g.
Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Er nad oedd yn aelod weithgar o fudiadau deallusol y wlad, cysylltir Agustini â La Generación del 900, cenhedlaeth o lenorion o Wrwgwái yn nechrau'r 20g oedd yn cynnwys Julio Herrera y Reissig, María Eugenia Vaz Ferreira, Alberto Zum Felde, ac Angel Falco.
Yn ystod ei gyrfa lenyddol fer, cyhoeddodd El libro blanco (Frágil) (1907), Cantos de la mañana (1910), a Los cálices vacíos (1913). Dylanwadwyd ar ei cherddi cynnar, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau llenyddol, gan modernismo llên America Ladin. Mae ei gwaith diweddarach yn enghraifft gynnar o'r themâu erotig a thanbaid sydd yn nodweddiadol o feirdd benywaidd Sbaeneg yr 20g.[1][2]
Priododd Enrique Job Reyes yn 1913, a chawsant ysgariad ar ôl rhyw 10 mis. Cafodd Agustini ei llofruddio yn 27 oed gan Reyes. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd Obras completas (1924), sy'n cynnwys y cylch anorffenedig o gerddi El rosarío del Eros.