Enghraifft o: | math o lywodraeth, math o wladwriaeth |
---|---|
Math | system wleidyddol |
Y gwrthwyneb | awtocratiaeth |
Rhan o | pum math o lywodraeth Plato |
Yn cynnwys | democratiaeth uniongyrchol, democratiaeth gynrychiolaidd, corff etholiadol, arlywydd, ethnic democracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Tardda'r gair democratiaeth o'r Groeg δημοκρατία (democratia), δημος (demos) y werin + κρατειν (cratein) teyrnasu[1]. Golyga ffurf o lywodraeth a reolir gan boblogaeth y gymdeithas. Mae'r cysyniad hwn wedi cael ei ddehongli a'i ddatblygu mewn gwahanol ffurf trwy hanes ond fel arfer mae'n cynnwys elfen o bleidleisio dros berson neu blaid mewn etholiad er mwyn penodi cynrychiolwyr ar gyfer llywodraeth neu gynulliad.
Caiff ei diffinio fel system sy'n caniatáu: (a:) llywodraeth sy'n cynrychioli mwyafrif ei phobol (b:) llywodraeth ble mae pwer y wlad yn nwylo ei phobl (yn hytrach na'r heddlu neu fyddin) a lle mae'r pwer hwnnw yn eu dwylo nhw yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy system o gyrychiolaeth[2].
Yn ôl Larry Diamond, mae'n cynnwys dwy elfen: "System wleidyddol er mwyn dewis llywodraeth drwy etholiadau rhydd a theg ac yn ail bod ei dinasyddion yn weithredol yn y system wleidyddol honno. Ynghlwm wrth y gair hwn hefyd mae parch at hawliau dynol pob un o'i dinasyddion a bod ei dinasyddion yn gweithredu mewn rhyw ffordd i sicrhau fod cyfreithiau yn eu lle sy'n rhoi hawliau cyfartal hyn i bawb".[3]
Mae'r term Groegaidd hwn, sy'n tarddu'n ôl i'r 5g CC, yn gwbwl groes i ἀριστοκρατία (aristokratía) "rheolaeth gan yr elit".[4] Dau air cwbwl groes mewn theori, ond yn ymarferol, mae tir cyffredin heddiw, fel ag yr oedd yn Athen y cynfyd ble rhoddwyd yr hawl i un carfan elitaidd i fod yn ddemocrataidd ac i bleidleisio ond nid y gweddill - y caethweision, merched ayb. Yng Ngwledydd Prydain, tan yr 20g, dim ond tirfeddiannwyr neu bobl ariannog oedd a'r hawl i bleidleisio. Nid oes gan garcharorion, heddiw, yr hawl hwn ychwaith, na phobl ifanc dan 18 oed.