Pamffled wleidyddol, chwyldroadol oedd Der Judenstaat (Almaeneg: yn llythrennol "Gwladwriaeth yr Iddewon"; Saesneg: The Jews' State) [1] ond cyfieithir fel rheol fel "Y Wladwriaeth Iddewig" (Saesneg: The Jewish State) [2] a ysgrifennwyd gan Theodor Herzl.
Cyhoeddwyd Der Judenstaat yn 1896 yn Fienna a Leipzig gan M. Breitenstein's Verlags-Buchhandlung. Isdeitlir y pamffled yn "Versuch einer modernen Lösung der Judenfrage" ("Cynnig ar ddatrysiad gyfoes i'r cwestiwn Iddewig"). Bwriadwyd y teitl "Annerchiad i'r Rothschilds", gan gyfeirio at y tylwyth bancio arch-gyfoethog,[3] yr oedd Herzl yn bwriadu cyflwyno'r araith i'w sylw. Gwrthododd Barwn Edmond de Rothschild gynllun Herzl, gan ofni y gallai fygwth Iddewon yn y Diaspora. Pryderai hefyd y gallai hefyd beryglu ei aneddiadau ei hun ym Mhalesteina.[4]
Ystyrir y llyfryn yn un o destunnau pwysicaf y mudiad Seionaeth. Ynddo mae Herzl yn darlunio sefydlu gwladwriaeth Iddewig annibynnol yn ystod y 20g. Mae'n dadlau (gydag un llygad ar ddarllenwyr a chefnogwyr posib ymhlith cenedl-ddynion a'r llall ar yr Iddewon eu hunain) mai sefydlu gwladwriaeth Iddewig fyddai'r ffordd mwyaf effeithiol o osgoi gwrth-semitiaeth. Mae'r llyfryn yn annog Iddewon i brynu tir ym Mhalesteina, oedd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid ar y pryd. Gydag adlais rhyfedd o ddyheadau Cymry cenedlaetholgar fel Michael D. Jones a'r Wladfa, ystyriwyd sefydlu gwladwriaeth Iddewig yn yr Ariannin hefyd, a gan Herzl yn Wganda hefyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Poblogeiddiodd Herzl y term "Seioniaeth", a fathwyd gan Nathan Birnbaum.[5] Bu breuddwyd Herzl o greu Gwladwrieth Iddewig yn llwyddiant rhyfeddol pan grewyd Israel annibynnol yn 1948, cwta hanner can mlynedd yn ddiweddarach - llawer cynt na'r rhelyw o fudiadau cenedlaetholaidd eraill Ewrop megis Cymru.