Math | dinas, tref ar y ffin |
---|---|
Poblogaeth | 85,016 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Derry |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 387 km² |
Gerllaw | Afon Foyle |
Cyfesurynnau | 54.9917°N 7.3417°W |
Cod post | BT47, BT48 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Derry City and Strabane District Council |
Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Dinas y Deri[1] neu Derry (Gwyddeleg: Doire[2] neu Doire Cholm Chille). Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir yn Saesnegː fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".
Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.
Ymweliad y Pwyllgor â Dulyn, Belffast a Dinas y Deri am sesiwn ddilynol ar gysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon.