Y syniad fod Natur yn dethol y mwyaf cryf a chymwys i oroesi gan adael i'r rhai gwan ac anaddas farw yw detholiad naturiol. Y gwyddonwyr Charles Darwin ac Alfred Russel Wallace oedd arloeswr y ddamcaniaeth pan gyhoeddywd ei bapurau ar y cyd o flaen y Gymdeithas Linnaean yn Llundain 1858.
Nid yw pawb yn derbyn egwyddor detholiad naturiol. Mae nifer o ffwndamentalwyr Cristnogol yn gwrthwynebu ei dysgu yn ysgolion yr Unol Daleithiau, er enghraifft, ac yn Islam mae rhai Mwslemiaid uniongred yn ei gwrthod hefyd.