Mae deuddegol (neu 'dwodegol') yn cyfeirio at system bôn 12, lle cyfrifir bob yn 12, yn hytrach na'r 10 arferol. Arferid defnyddio'r system hon yng ngwledydd Prydain tan yn ddiweddar (1971) ar y ffurf "dwsin" yn enwedig i gyfrif arian a wyau: roedd deuddeg (neu un-deg-dau) ceiniog mewn swllt.
Roedd yn system boblogaidd iawn, yn bennaf oherwydd y gellir rhannu gyda 2, 3, 4, a 6. Mae'n system rhifol ac yn fath o nodiant mathemategol, sydd ei hun yn fynegiad rhifol o fewn y system ysgrifennu. Mae rhai'n honni fod 12 yn rhif pwysig oherwydd mai dyma'r nifer o weithiau mae'r lleuad yn llenwi, mewn blwyddyn, ond ceir nifer o gynigion eraill.
Yn y system deuddegol, ysgrifennir 10 fel "2" wedi'i gylchdroi (2) a'r rhif 11 wedi'i gylchdroi (3). Cyflwynwyd y nodiant hwn gan Isaac Pitman.[1] Ers Mehefin 2015, ceir fersiwn Unicode o'r digidau hyn,[2] sef ↊ (Pwynt Cod 218A) a ↋ (Pwynt Cod 218B), yn ôl eu trefn.[3] Cylchdroir nodiannau eraill hefyd: "A", "T", neu "X" am ddeg a "B" neu "E" am 11. Mae'r rhif 12 (yn ein system ddegol ni heddiw) yn cael ei ddynodi fel "10" sef "1 lot o 12 a dim uned"; gair arall am ddeuddeg yw "dwsin"; gros yw deuddeg dwsin. Mae'r nodiant "12" yn golygu "1 grwp o 12 a 2 uned" (h.y. "14" yn y system ddegol). Felly, mewn deuddegol, ystyr "100" yw "un gros (sef 144)"; "1000" yw "1 gros-mawr", a "0.1" yw "1 deuddegfed" (sef fel degolion: "1 canfed", "1 milfed", ac "1 degfed").[4]
|deadurl=
ignored (help)