![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llansanffraid ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.749132°N 3.129039°W ![]() |
Cod OS | SJ237174 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Llansanffraid, Powys, Cymru, yw Deuddwr.[1] Saif yn ardal Maldwyn tua 2 filltir i'r de o bentref Llansanffraid-ym-Mechain. Mae enw'r pentref yn deillio o enw'r cwmwd Cymreig canoloesol Cwmwd Deuddwr.
Saif y pentref tua 4 milltir o'r ffin â Lloegr, tua hanner ffordd rhwng Croesoswallt i'r gogledd a'r Trallwng i'r de. Llifa Afon Cain heibio i'r gogledd o Ddeuddwr, rhyngddo â Llansanffraid-ym-Mechain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]