Mewn electroneg, mae deuod yn gydran electroneg dau-derfynell sy'n dargludo cerrynt trydanol mewn un cyfeiriad yn unig. Gan amlaf cyfeiria'r term at ddeuod lled-ddargludol, sef y math mwyaf cyffredin y dyddiau hyn. Darn o ddefnydd lled-ddargludol grisialog yw hyn wedi ei gysylltu i ddau derfynell trydanol. Mae deuod tiwb wactod (nas ddefnyddir yn aml ac eithrio mewn rhai technolegau uchel eu pŵer) yn diwb wactod gyda dau electrod: plât a catod
Prif ddefnydd deuod yw galluogi i gerrynt trydanol i symud mewn un cyfeiriad (a elwir yn gyfeiriad blaen y deuod) tra'n atal cerrynt rhag symud i'r cyfeiriad arall (y cyfeiriad tu chwith). O ganlyniad, gellir ystyried deuod fel fersiwn electronig o falf siec. Gelwir yr ymddygiad ungyfeiriadol hwn yn unioniad, a chaiff ei ddefnyddio i drosi cerrynt eiledol yn gerrynt union, ac i echdynnu modyliad o signalau radio mewn derbynyddion radio.