![]() | |
Enghraifft o: | duwdod Rhufeinig, epithet ![]() |
---|---|
Rhan o | Dii Consentes ![]() |
Enw brodorol | Diana ![]() |
![]() |
Ym mytholeg Rhufain, roedd Diana yn dduwies hela, y lleuad a gwyryfdod. Mae'n cyfateb i Artemis ym mytholeg Roeg, ond roedd Diana o darddiad Eidalaidd.
Dywedir i Artemis/Diana gael ei geni gyda'i hefaill Apollo ar ynys Delos, yn ferch i Zeus/Iau a Leto/Latona. Cysylltir hi ag anifeiliad gwyllt, ac roedd llwyni derw yn gysegredig iddi. Roedd hefyd yn dduweies ffrwythlondeb.
Fel Artemis, cysylltid Diana yn arbennig a dinas Effesus, lle roedd teml fawr iddi, Teml Artemis. Cofnodir i'r apostol Paul, ar ymweliad ag Ephesus i genhadu, greu terfysg ymysg gofaint arian oedd yn gwneud bywoliaeth o wneud a gwerthu cerfluniau o'r dduwies. Cofnodir i'r terfysgwyr weiddi "Mawr yw Diana yr Effesiaid!".