Cyflwr a nodir gan ymddygiad gorfodol sy'n ymrwymo'r unigolyn i gynhyrfiadau sy'n rhoi boddhad, er gwaethaf yr effeithiau niweidiol,[1][2][3][4][5] yw caethiwed,[6][7]caethineb[7] neu ddibyniaeth.[7][8] Gellir ei ystyried yn afiechyd neu'n broses fiolegol sy'n arwain at y fath ymddygiadau.[1][9] Y ddwy briodwedd sydd gan bob cynhyrfiad sy'n peri caethiwed yw eu natur atgyfnerthol (hynny yw, maent yn ei wneud yn fwy debygol i'r unigolyn geisio'u profi tro ar ôl tro) a'r boddhad cynhenid sy'n dod ohonynt.[1][2][5] Mae'r ffin rhwng caethiwed ffisiolegol a dibyniaeth seicolegol yn aneglur.[6]
Mae dibyniaethau ar gyffuriau a dibyniaethau ymddygiadol yn cynnwys alcoholiaeth, dibyniaeth ar amffetaminau, dibyniaeth ar gocên, dibyniaeth ar nicotîn, dibyniaeth ar opiadau, dibyniaeth ymarfer corff, dibyniaeth bwyta, dibyniaeth gamblo, a dibyniaeth rywiol. Camddefnyddir y term yn aml gan y cyfryngau i gyfeirio at ymddygiadau ac amhwylderau gorfodol eraill, yn enwedig dibyniaeth ar sylweddau sef cyflwr ymaddasol o ganlyniad i roi'r gorau i gyffur ac sydd nid o reidrwydd yn gysylltiedig â dibyniaeth yn yr ystyr uchod.[10]
↑Malenka RC, Nestler EJ, Hyman SE (2009). "Chapter 15: Reinforcement and Addictive Disorders". Yn Sydor A, Brown RY. Molecular Neuropharmacology: A Foundation for Clinical Neuroscience (ail argraffiad. Efrog Newydd: McGraw-Hill Medical. tt. 364–365, 375. ISBN 9780071481274.
↑American Psychiatric Association (2013). "Substance-Related and Addictive Disorders"(PDF). American Psychiatric Publishing. tt. 1–2. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2015. Additionally, the diagnosis of dependence caused much confusion. Most people link dependence with “addiction” when in fact dependence can be a normal body response to a substance.