Dic Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1934 ![]() Tre'r-ddôl ![]() |
Bu farw | 18 Awst 2009 ![]() Blaenannerch ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffermwr, bardd ![]() |
Plant | Brychan Llŷr ![]() |
Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Dic Jones (30 Mawrth 1934[1] – 18 Awst 2009[2]). Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd.