Dic Penderyn | |
---|---|
Ganwyd | 1808 ![]() Aberafan ![]() |
Bu farw | 13 Awst 1831 ![]() o crogi ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gweithiwr bôn braich, glöwr ![]() |
Gwrthryfelwr o Gymru oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (1808 – 13 Awst 1831), glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.
Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi ar gam. Trigai ym Merthyr Tydfil a chymerodd ran yng Ngwrthryfel Merthyr ar 3 Mehefin 1831.[1] Fe'i arestiwyd ar 3 Mehefin, gyda'i gyfaill Lewis Lewis, un o'r arweinwyr.
Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog, er y teimlai nifer ar y pryd, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl. Wedi ei farwolaeth, cafodd ei ddyrchafu i statws merthyr Cymreig.
Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.