Mae Ddifodiannau Mawr Bywyd (Saesneg: mass extinction events) yn ddigwyddiadau byd-eang pan welir lleihad yn y bywyd sydd ar y Ddaear a hynny ar raddfa enfawr. Gellir diffinio sawl difodiant drwy edrych ar y newid sylweddol yn yr amrywiaeth a nifer yr organebau amlgellog. Mae difodiannau o'r fath yn cael effaith ar gydrannau'r biosffêr.[1]
'Dyw graddfa'r difodiannau mawr a welwyd dros y milenia ddim yn gyson: maen nhw'n digwydd heb batrwm o ran amser. Gellir dweud yn fras, o astudio ffosiliau fod difodiannau cefndirol yn digwydd tua 2 i 5 teulu (bioleg) (tacsonomegol) anifeiliaid morol bob miliwn o flynyddoedd. Dyma, felly, y math o ffosiliau a astudir yn fwyaf aml, oherwydd y cofnod manwl sydd ar gael ohonynt, o'i gymharu ag anifeiliaid y tir.
Y difodiant mawr cyntaf, mae'n debyg oedd yr 'Ocsigeneddio Mawr' (Great Oxygenation Event) pan welwyd diocsigen (O2) a gynhyrchwyd gan organebau biolegol yn atmosffer y blaned.[2]
Y difodiant mawr diwedda pedd y Digwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogenaidd pan welwyd difodi llawer iawn o anifeiliaid a phlanhigion a hynny mewn amser cymharol fyr.[3] Yn ychwanegol at y 5 prif ddifodiant mawr, ceir nifer o rai mân a'r difodiant hwnnw sy'n digwydd heddiw a achoswyd gan ddyn, a elwir weithiau y 6ed difodiant. Digwyddant gan mwyaf yn ystod y Ffanerosöig (yr Eon daearegol presennol, a'r un ble gwelwyd amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn esblygu).[4]