Difrod anfwriadol neu ddamweiniol yw difrod ystlysol (Saesneg: collateral damage). Defnyddir y term yn bennaf fel gair teg am farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i weithred milwrol.
Bathwyd y term gan luoedd milwrol yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam.[1]