Enghraifft o: | term ystadegol, is-set ![]() |
---|---|
Math | set y gellir ei mesur ![]() |
![]() |
Mewn theori tebygolrwydd, mae digwyddiad yn set o ganlyniadau arbrawf (is -set o'r gofod sampl) y rhoddir tebygolrwydd iddo.[1] Gall un canlyniad fod yn elfen o lawer o wahanol ddigwyddiadau,[2] ac fel rheol nid yw gwahanol ddigwyddiadau mewn arbrawf yr un mor debygol, oherwydd gallant gynnwys grwpiau gwahanol iawn o ganlyniadau.[3]
Gelwir digwyddiad sy'n cynnwys un canlyniad yn unig yn ddigwyddiad elfennol neu'n ddigwyddiad atomig; hynny yw, set sengl (neu singleton) ydyw. Dywedir i ddigwyddiad ddigwydd os yw yn cynnwys y canlyniad o'r arbrawf (neu'r prawf) (hynny yw, os ydy ). Y tebygolrwydd y bydd digwyddiad yn digwydd yw'r tebygolrwydd bod yn cynnwys y canlyniad o arbrawf (hynny yw, mae'n bur debygol fod ). Mae digwyddiad yn diffinio digwyddiad cyflenwol, sef y set gyflenwol (y siawns i'r digwyddiad beidio a digwydd), a gyda'i gilydd mae'r rhain yn diffinio prawf Bernoulli: a ddigwyddodd y digwyddiad ai peidio?