![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.181°N 4.216°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a phlwyf yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Dihewyd (hen enw: Llanwyddalis). Yr hen enw ar eglwys Dihewyd oedd Llanwyddalus, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio mewn nifer o enwau lleoedd. Cyfeirir at y ffair yn 1570 fel "ffair Dalis" (Saesneg: "Llanvidales in Dyhewed", ond symudodd oddi yma i Ffair Dalis yno; symudodd y ffair oddi yma i Lanbedr Pont Steffan.[1] Saif ar y ffordd B4342 rhwng pentrefi Ystrad Aeron a Llanarth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Ceir ysgol gynradd yma, sef Ysgol Gynradd Dihewyd, ond nid oes siop bellach.
Gorwedd tarddle Afon Granell ym mhlwyf Dihewyd ger fferm Ynys-felen, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de.