Dinas, Sir Benfro

Dinas
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth759 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0109°N 4.9098°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000424 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dinas (Saesneg: Dinas Cross). Saif ger yr arfordir ar briffordd yr A487 i'r gogledd ddwyrain o Abergwaun. Mae'n cynnwys Ynys Dinas, sy'n fagwrfa bwysig i forloi ac adar môr, er nad yw'n ynys yng ngwir ystyr y gair. Cofnodir i eglwys Dinas gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, a dinistriwyd yr eglwys newydd, a safai yng Nghwmyreglwys, gan storm fawr 1859. Codwyd eglwys arall yn 1861; mae wedi ei chysegru i Sant Brynach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[2]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 798.

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  2. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne