![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 7,892 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.43486°N 3.21398°W ![]() |
Cod SYG | W04000653 ![]() |
Cod OS | ST157711 ![]() |
Cod post | CF64 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Dinas Powys[1] (Saesneg: Dinas Powis).[2] Saif rhwng y Barri a dinas Caerdydd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 7,653.
Gerllaw'r pentref saif bryngaer Dinas Powys, lle mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod pobl yn byw ar y safle yn ystod y 5ed a'r 6g. Mae'r fryngaer ei hun yng nghymuned Llanfihangel-y-pwll. Yn y Canol Oesoedd, roedd Dinas Powys yn arglwyddiaeth yn perthyn i deulu de Sumeris; gellir gweld adfeilion eu castell.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]