Grŵp ethnig yn ne Swdan yw'r Dinka neu Muonjang. Amcangyfrifir fod tua 4.5 miliwn ohonynt, yn byw yn ardal Bahr el Ghazal aqc ardaloedd cyfagos yn nalgylch afon Nîl. Hwy yw grŵp ethnig mwyaf de Swdan, ac maent yn ffurfio 12% o boblogaeth y wlad i gyd.
Amaethyddiaeth yw eu prif gynhaliaeth, yn cynnwys vadw gwartheg a thyfu grawn. Mae'r iaith Dinka yn un o'r ieithoedd Nilotaidd.