Dita Von Teese | |
---|---|
Ganwyd | Heather Renée Sweet 28 Medi 1972 West Branch |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, model, coreograffydd, stripar, actor teledu, model hanner noeth, actor ffilm |
Priod | Marilyn Manson |
Gwefan | https://dita.net |
Model ac actores o'r Unol Daleithiau yw Dita Von Teese (ganed Heather Renée Sweet 28 Medi 1972 yn Rochester, Michigan). Mae hi'n artist bwrlesg[1] amrywiol ei dawn: cantores, actores, entrepreneur, model ond yn bennaf - dawnswraig. Bu'n allweddol yn yr ymgyrch i ddatblygu'r 'bwrlesg' yn steil unigryw sy'n ymylu ar fod yn ffetish.[2][3] She is thought to have helped repopularize burlesque performance,[4][5]
Ganwyd Von Teese yn Rochester, Michigan, yr ail o dair merch. Roedd ei thad yn beiriannydd ac roedd ei mam yn ddynes trin ewinedd. Daeth ei rhieni'n wreiddiol o Armenia, Lloegr, yr Alban ac Almaen.
Mae Von Teese yn adnabyddus am ei ddiddorol gyda sinema'r 1940au o arddull clasurol. Dechreuodd hyn yn ifanc iawn ac fe gafodd ei feithrin a'i annog gan ei mam, a fyddai'n prynu dillad i'w ferch i 'wisgo i fyny'. Roedd ei mam yn gefnogwr o hen ffilmiau Oes Aur Hollywood, ac fe ddatblygodd Von Teese ei diddordeb drwy ddynwared, yn bennaf, Betty Grable.