Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai.[1] Mae'n achlysur i ddathlu cyrhaeddiadau'r dosbarth gweithiol a mudiadau llafur neu i brotestio. Sefydlwyd yr ŵyl fodern yn 1889, ond mae Calan Mai, fel y gwyddom yng Nghymru, yn hen ŵyl Geltaidd, Baganaidd.
Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd. Dewisiwyd y dyddiad i gofio 'Digwyddiadau Haymarket', Chicago ar 4 Mai 1886.[2] pan laddwyd dau weithiwr mewn protest dawel dros diwrnod 8-awr.[3]