![]() | |
Enghraifft o: | y diwylliant mewn un lleoliad ![]() |
---|---|
Math | diwylliant y Ddaear ![]() |
Rhan o | Latin American culture ![]() |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Dominica ![]() |
![]() |
Diwylliant America Ladin |
---|
![]() |
Yn ôl gwlad neu diriogaeth |
Diwylliant gwerin |
Celf a phensaernïaeth |
Ffilm a theledu |
Datblygodd diwylliant Gweriniaeth Dominica yn bennaf ar sail etifeddiaeth Sbaenaidd y wlad a chyda dylanwadau Affricanaidd sydd yn adlewyrchu hanes amlhiliol y wlad fel rhan o Gapteiniaeth Gyffredinol Santo Domingo yn Ymerodraeth Sbaen. Rhennir ynys Hispaniola rhwng Gweriniaeth Dominica a Haiti, a fu'n meddiannu cyn-wladfa Santo Domingo o 1822 nes rhyfel annibyniaeth ym 1844. Dylanwadwyd ar ddiwylliant Gweriniaeth Dominica i raddau gan ddiwylliant Haiti, er i nifer o Ddominiciaid adweithio'n erbyn yr ymddiwylliannu hwnnw mewn ymgais i fynegi diwylliant cenedlaethol unigryw.