Doug Mountjoy

Doug Mountjoy
Ganwyd8 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg, Tir-y-berth Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer, glöwr, hyfforddwr chwaraeon Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Doug Mountjoy (8 Mehefin 194214 Chwefror 2021)[1] yn chwaraewr snwcer o Gymru.  Roedd yn y 16 uchaf yn ystod y 1970au a'r 1980au hwyr, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979.  Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis.  Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89.  Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91.  Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.

  1. Doug Mountjoy, un o oreuon snwcer Cymru, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne