Doug Mountjoy | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1942 ![]() Sir Forgannwg, Tir-y-berth ![]() |
Bu farw | 14 Chwefror 2021 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer, glöwr, hyfforddwr chwaraeon ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Roedd Doug Mountjoy (8 Mehefin 1942 – 14 Chwefror 2021)[1] yn chwaraewr snwcer o Gymru. Roedd yn y 16 uchaf yn ystod y 1970au a'r 1980au hwyr, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979. Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis. Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89. Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91. Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.