![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Königswinter ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 320.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 50.6653°N 7.2097°E ![]() |
Cyfnod daearegol | Oligosen ![]() |
Cadwyn fynydd | Siebengebirge ![]() |
![]() | |
Deunydd | trachyte ![]() |
Mynydd ym mynyddoedd y Siebengebirge yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw'r Drachenfels ("Craig y Ddraig"). Saif y mynydd, sy'n 321 m (1053 troedfedd) o uchder, gerllaw Bonn. Ar ei gopa mae castell adfeiliedig sydd hefyd yn dwyn yr enw Drachenfels.
Yn chwedloniaeth yr Almaen, dywedir fod Siegfried, arwr y Nibelungenlied, wedi lladd draig oedd yn byw mewn ogof ar y mynydd. Wedi ymolchi yn ei gwaed, nid oedd modd ei niwedio ag unrhyw arf, heblaw mewn un lle.
Mae rheilffordd yn arwain o Königswinter i gopa'r Drachenfels.