Math | cwmni cynhyrchu ffilmiau |
---|---|
Diwydiant | creu ffilmiau |
Sefydlwyd | 12 Hydref 1994 |
Sefydlydd | Steven Spielberg, David Geffen |
Pencadlys | Universal City |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | meddalwedd |
Nifer a gyflogir | 80 (2012) |
Lle ffurfio | Universal City |
Gwefan | https://www.dreamworks.com/ |
Cwmni dosbarthu ffilmiau Americanaidd yw DreamWorks Pictures, sy'n eiddo i Amblin Partners. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar 12 Hydref 1994 fel stiwdio ffilm actio gan Steven Spielberg, Jeffrey Katzenberg, a David Geffen. Dosbarthodd y stiwdio ei ffilmiau ei hun a a rhai a gynhyrchwyd gan eraill.
Yn 2005 cytunodd y sylfaenwyr i werthu'r stiwdio i Viacom, sy'n rhiant i Paramount Pictures. Cwblhawyd y gwerthiant ym mis Chwefror 2006 ("DW Studios" yw enw'r fersiwn hon bellach). Yn 2008, cyhoeddodd DreamWorks ei fwriad i ddod â’i bartneriaeth â Paramount i ben a gwnaeth gytundeb i gynhyrchu ffilmiau gyda Grŵp Reliance Anil Dhirubhai Ambani India, a chafodd DreamWorks Pictures ei ail-greu fel endid annibynnol. Y flwyddyn ganlynol, ymrwymodd DreamWorks i gytundeb dosbarthu gyda Walt Disney Studios Motion Pictures, lle byddai Disney yn dosbarthu ffilmiau DreamWorks trwy Touchstone Pictures; parhaodd y drefn tan 2016. Ers 2016, mae Universal Pictures wedi dosbarthu a marchnata'r ffilmiau a gynhyrchir gan DreamWorks Pictures. Ar hyn o bryd, lleolir swyddfedd DreamWorks yn Universal Studios Hollywood.
Mae DreamWorks Pictures yn wahanol i DreamWorks Animation, ei hen adran animeiddio a gafodd ei ddeillio yn 2004 ac a ddaeth yn is-gwmni i NBCUniversal yn 2016. Mae cwmni Spielberg yn parhau i ddefnyddio nodau masnach gwreiddiol DreamWorks dan drwydded gan DreamWorks Animation.