![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Droitwich Spa |
Poblogaeth | 26,410 ![]() |
Gefeilldref/i | Gyula, Voiron, Bad Ems, yr Almaen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7.389 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Kidderminster ![]() |
Cyfesurynnau | 52.267°N 2.153°W ![]() |
Cod OS | SO895632 ![]() |
Cod post | WR9 ![]() |
![]() | |
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Droitwich Spa[1] neu Droitwich. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Wychavon. Saif ar lannau Afon Salwarpe tua 22 milltir (35 km) i'r de-orllewin o Birmingham a 7 milltir (11 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerwrangon.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 23,504.[2]
Lleolir y dref ar ben dyddodion enfawr o halen, ac mae halen wedi'i echdynnu yno ers yr hen amser. Mae galwyn o'r dŵr halen naturiol yn cynnwys 2.5 pwys o halen (0.25 kg/L) – ddeg gwaith yn gryfach na dŵr y môr ac yn debyg i halltedd y Môr Marw.