Dumbarton

Dumbarton
Mathtref, large burgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,560 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Dunbarton Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.9486°N 4.5472°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000466, S19000557 Edit this on Wikidata
Cod OSNS397759 Edit this on Wikidata
Cod postG82 Edit this on Wikidata
Map

Tref yng Ngorllewin Swydd Dunbarton, yr Alban, yw Dumbarton[1] (Gaeleg yr Alban: Dùn Breatann, "Caer y Brythoniaid";[2] Sgoteg: Dumbartoun neu Dumbertan;[3] Cymraeg: Din Alclud,[4] Caer Alclud). Fe' lleolir ar lan ogleddol Afon Clud, tua 13 milltir (21 km) o ganol dinas Glasgow.

Hi yw canolfan weinyddol Gorllewin Swydd Dunbarton. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 20,550. Ar un adeg roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig iawn yma; yn Dumbarton er enghraifft yr adeiladwyd y Cutty Sark, sydd yn awr yn Greenwich, Llundain. Yn ddiweddarach daeth cynhyrchu chwisgi yn bwysig. Erbyn hyn, mae llawer o'r boblogaeth yn gweithio yn Glasgow yr ochr draw i'r afon.

Nodwedd fwyaf trawiadol y dref yw Castell Dumbarton, ar Graig Dumbarton uwchben y dref. Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid yr oedd caer Alt Clut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd.

Craig Dumbarton o'r de. Roedd caer Alt Clut ar y copa ar y dde.
  1. British Place Names; adalwyd 9 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 9 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 14 Ebrill 2022
  4. Geiriadur yr Academi, s.v. "Dumbarton"

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne