Dysgu peirianyddol yw'r astudiaeth wyddonol o algorithmau a modelau ystadegol sy'n cael eu defnyddio gan systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasg benodol, gan ddibynnu ar batrymau a chasgliadau yn lle cyfarwyddiadau penodol. Mae'n cael ei weld fel is-set o ddeallusrwydd artiffisial.
Mae algorithmau dysgu peirianyddol yn adeiladu model mathemategol o ddata sampl a elwir yn " ddata hyfforddi " er mwyn gwneud rhagfynegiadau neu benderfyniadau heb fod wedi'u rhaglennu'n benodol i gyflawni'r dasg. Defnyddir yr algorithmau hyn mewn amrywiaeth eang o gymwysiadau, fel hidlo e-bost a golwg gyfrifiadurol, lle nad yw'n ddichonol i ddatblygu algorithm o gyfarwyddiadau penodol ar gyfer cyflawni'r dasg.
Ceir cysylltiad agos rhwng dysgu peirianyddol ac ystadegaeth gyfrifiadol, sy'n canolbwyntio ar wneud rhagfynegiadau gan ddefnyddio cyfrifiaduron.
Mae'r astudiaeth o optimeiddio mathemategol yn cyflwyno dulliau, theori a meysydd cymhwyso i faes dysgu peirianyddol.
Mae cloddio data yn faes astudiaeth o fewn i ddysgu peirianyddol, ac mae'n canolbwyntio ar ddadansoddi data archwiliadol trwy ddysgu heb oruchwyliaeth.[2][3]
Yn ei gymhwysiad ar draws problemau busnes, cyfeirir at ddysgu peirianyddol hefyd fel 'dadansoddi rhagfynegol'.