E. M. Forster | |
---|---|
Paentiad gan Dora Carrington, tua 1914-5 | |
Ganwyd | Edward Morgan Forster 1 Ionawr 1879 Llundain |
Bu farw | 7 Mehefin 1970 Coventry |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, beirniad llenyddol, cofiannydd, awdur ffuglen wyddonol, libretydd, awdur ysgrifau |
Adnabyddus am | Howards End, A Room with a View, Maurice, Where Angels Fear to Tread, The Longest Journey, A Passage to India |
Arddull | realaeth |
Mudiad | Grŵp Bloomsbury |
Tad | Edward Morgan Llewellyn Forster |
Mam | Alice Clara Whichelo |
Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Prometheus - Hall of Fame, Benson Medal, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Urdd Teilyngdod |
llofnod | |
Nofelydd o dras Gymreig a Gwyddelig o Loegr oedd Edward Morgan Forster (1 Ionawr 1879 - 7 Mehefin 1970) a ysgrifennodd yn Saesneg. Sgwennai storiau byrion, nofelau ac ysgrifau'n ymwneud â'r gwahaniaethau yn haenau neu begynau annheg y gymdeithas, gan geisio dinoethi rhagrith yr oes, mewn arddull llawn eironi. Sail i'w holl waith, mewn gwirionedd, oedd ei gred mewn dyneiddiaeth a gwelir hynny ar ei orau yn ei nofel (1910) Howards End: "Only connect … ". Mae ei nofel A Room with a View (1908) yn llawn o optimistiaeth a'i nofel fwyaf llwyddiannus oedd A Passage to India (1924). Ceir hefyd nifer o gyffyrddiadau'n ymwneug â phobl hoyw, mater llosg iawn ar y pryd, yn enwedig ei nofel Maurice a'i gasgliad o stoiau byrion The Life to Come. Teithiodd gryn lawer drwy India, yr Aifft a thrwy Ewrop a dylanwadodd y teithiau hyn cryn lawer ar ei waith. Bu'n byw yn Surrey am dros 40 mlynedd.