Y wyddoniaeth a'r astudiaeth o sut i wella'r berthynas rhwng y prosesau ecolegol yn yr amgylchedd ac ecosystem arbennig yw Ecoleg tirffurfiau. Gwneir hyn o fewn gwahanol fathau o dirffurfiau, datblygiadau, patrymau gofodol, ymchwil a pholisi.[1][2][3]
Mae'n faes hynod o ryngddisgyblaethol o fewn gwyddoniaeth systemau ac yn cyfanu'r bioffisegol a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae tirffurfiau, o ran gofod, yn ardaloedd daearyddol hynod o anghydryw (heterogeneous) a'r hyn sy'n nodweddiadol ohonynt yw'r amrywiaeth eang o ecosystemau, fel clytwaith, yn amrywio o systemau gymharol naturiol megis coedwigoedd a llynnoedd i amgylcheddau annaturiol a grewyd gan ddyn, gan gynnwys caeau enfawr o weiriau a threfi.[2][4][5] Pwysleisia ecoleg tirffurfiol ar ei waethaf (a mwyaf amlwg) y berthynas rhwng patrymau, prosesau a graddfa, a'r ffocws mae'n ei roi ar bynciau llosg ecoleg a'r amgylchedd. Drwy hyn, priodir dau fath o wyddoniaeth: y bioffisegol a'r cymdeithaol-economaidd. Ymhlith y pynciau ymchwil mwyaf poblogaidd y mae llif ecoleg drwy glytwaith tirffurfiau, y defnydd o dir, graddfeydd, analeiddio gwahanol batrymau o fewn y tirffurfiau a chadwraeth tirffurfiau a chynaliadwyedd.[6]