Eddie Redmayne | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Edward John David Redmayne ![]() 6 Ionawr 1982 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, model, actor teledu, actor ![]() |
Arddull | comedi Shakespearaidd ![]() |
Tad | Richard Charles Tunstall Redmayne ![]() |
Mam | Patricia Burke ![]() |
Priod | Hannah Jane Bagshawe ![]() |
Plant | Iris May Redmayne, Luke Richard Bagshawe Redmayne ![]() |
Gwobr/au | Laurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr y Screen Actors Guild am y Perfformiad mwyaf Arbennig gan Ddyn mewn Rol Blaenllaw, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr y 'Theatre World', OBE, Golden Globes ![]() |
llofnod | |
![]() |
Mae Edward John David Redmayne, OBE (ganed 6 Ionawr 1982)[1] yn actor Seisnig. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn y theatr ac ar y teledu yn y 2000au cynnar cyn iddo wneud ei ddebut yn y ffilm, Like Minds, yn 2006. Ers hynny, y mae wedi ymddangos mewn ffilmiau megis The Good Shepherd (2006), Savage Grace (2007), Elizabeth: The Golden Age (2007), My Week with Marilyn (2011), Les Misérables (2012), The Theory of Everything (2014), Jupiter Ascending (2015), a The Danish Girl (2015).
Canmolwyd Redmayne ar gyfer ei berfformiad fel Stephen Hawking yn The Theory of Everything, yn ennill y wobr ar gyfer yr Actor Gorau yng Ngwobrau'r Academi, Gwobrau BAFTA, Gwobrau Golden Globe, a Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrin. Mae wedi parhau gyda pherfformio yn y theatr, yn fwyaf adnabyddus ar gyfer ei rôl yn y ddrama Red (2010), yn Broadway. Enillodd y Wobr Tony ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Drama ar gyfer ei waith.