Edward Schillebeeckx | |
---|---|
![]() Portread o Edward Schillebeeckx ym 1979. | |
Ganwyd | 12 Tachwedd 1914 ![]() Antwerp ![]() |
Bu farw | 23 Rhagfyr 2009 ![]() Nijmegen ![]() |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, academydd, llenor, offeiriad Catholig ![]() |
Cyflogwr | |
Perthnasau | Ward Leemans ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Erasmus, Gouden Ganzenveer, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven ![]() |
Diwinydd Catholig o Wlad Belg oedd yn un o ffigurau blaenllaw Ail Gyngor y Fatican oedd Edward Cornelis Florentius Alfonsus Schillebeeckx (12 Tachwedd 1914 – 23 Rhagfyr 2009).[1] Yn ôl yr offeiriad ac athro Robert Schreiter, Schillebeeckx oedd yr ysgolhaig Catholig cyntaf i ymdrin mewn difrif â'r holl ymchwil i'r Iesu hanesyddol a'i gyflwyno mewn modd dealladwy ac eglur.[2]
Ysgrifennodd weithiau academaidd oedd yn arddel safbwyntiau blaengar ar Gristnogaeth ac yn cwestiynau rhai o athrawiaethau'r Eglwys Gatholig. Ym 1979 cafodd ei alw i'r Fatican am y tro cyntaf i ateb am ei gred a phrofi ei bod yn gyson â'r ddysgeidiaeth Gatholig. Cafodd ei gwestiynu eto yn y 1980au am ei farnau ar Iesu a'r atgyfodiad, ac am ei ddealltwriaeth o'r offeiriadaeth. Ni chafodd ei gyhuddo'n swyddogol neu ei chael yn euog gan yr un ymchwiliad.