Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1841 Palas Buckingham |
Bu farw | 6 Mai 1910 Palas Buckingham |
Swydd | teyrn Prydain Fawr ac Iwerddon, Ymerawdwr India, Arglwydd Uchel Ddistain yr Alban, Tywysog Cymru, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, teyrn Canada |
Tad | Albert o Sachsen-Coburg a Gotha |
Mam | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig |
Priod | Alexandra o Ddenmarc |
Partner | Carmen Sylva, Alice Keppel |
Plant | Albert Victor, Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig, Louise, y Dywysoges Reiol, y Dywysoges Victoria, Maud, Alexander John |
Llinach | Tŷ Sachsen-Coburg a Gotha |
llofnod | |
Edward VII (llysenw: "Bertie"; (9 Tachwedd 1841 – 6 Mai 1910) oedd brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o 22 Ionawr 1901 hyd at ei farwolaeth.
Edward oedd mab y frenhines Victoria a'i phriod, y Tywysog Albert. Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham. Ef oedd Tywysog Cymru rhwng 8 Rhagfyr, 1841, a marwolaeth Victoria.
Ei wraig oedd Alexandra o Ddenmarc.
Crëwyd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru y Brenin Edward VII wedi ei farwolaeth fel ffordd o goffáu ei deyrnasiad drwy geisio dileu y Dicâu yng Nghymru.