Edwin, brenin Northumbria

Edwin, brenin Northumbria
Ganwydc. 586 Edit this on Wikidata
Deifr Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 633 Edit this on Wikidata
Hatfield Chase Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDeifr, Brynaich Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Northumbria, brenin Deifr, brenin Brynaich, brenin Brynaich, brenin Deifr Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl12 Hydref Edit this on Wikidata
TadÆlla of Deira Edit this on Wikidata
PriodÆthelburh of Kent, Cwenburh Edit this on Wikidata
PlantEanflæd, Osfrith (?), Eadfrith (?), Æthelhun (?), Æthelthryth (?), Wuscfrea (?) Edit this on Wikidata

Brenin teyrnasoedd Deifr a Brynaich, a ddaeth yn ddiweddarach yn deyrnas Northumbria oedd Edwin, hefyd Eadwine neu Æduini (tua 586 - 12 Hydref 632/633). Daeth yn Gristion, ac ystyrid ef yn sant Cristnogol wedi iddo gael ei ladd mewn brwydr.

Roedd Edwin yn fab i Ælle, brenin Deifr. Wedi marwolaeth ei dad, daeth Æthelfrith yn frenin Northumbria, a bu Edwin mewn alltudiaeth. Mae traddodiad, er enghraifft gan Sieffre o Fynwy, iddo gael nodded gan Cadfan ap Iago, brenin Teyrnas Gwynedd. Mae Trioedd Ynys Prydain yn ei enwi fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".

Lladdwyd Æthelfrith mewn brwydr gan Raedwald, brenin East Anglia tua 616, a daeth Edwin yn frenin Northumbria. Tua 616 neu 626, goresgynnodd deyrnas Frynthonig Elfed, ac ymosododd ar Ynys Manaw. Erbyn tua 627, ef oedd y mwyaf grymus o frenhinoedd yr Eingl-Sacsoniaid, a dywedir iddo feddiannu Ynys Môn am gyfnod. Ymddengys iddo orchfygu Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd, a'i orfodi i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629.

Yn 632 gwnaeth Cadwallon gynghrair gyda Penda, brenin Mersia yn erbyn Edwin. Gorchfygwyd Edwin ganddynt ym Mrwydr Meigen, a lladdwyd ef ar faes y frwydr.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne