![]() Un o effeithiau newid hinsawdd yw codi lefel y môr. Codwyd Morglawdd Bae Caerdydd i wrthsefyll y posibilrwydd o lifogydd o ganlyniad i hyn. | |
Enghraifft o: | effaith ![]() |
---|---|
Math | effaith pobl ar yr amgylchedd ![]() |
Mae effeithiau newid hinsawdd yn cwmpasu'r impact ar yr amgylchedd ffisegol, ecosystemau ac ar bobl. Mae effeithiau amgylcheddol newid hinsawdd yn eang ac yn bellgyrhaeddol gan eu bod yn effeithio ar y cylchred dŵr, cefnforoedd, iâ môr a thir (rhewlifoedd), lefel y môr, yn ogystal â digwyddiadau tywydd a hinsawdd eithafol.[1] Nid yw'r newidiadau yn yr hinsawdd yn gyson nac yn unffurf ar draws y Ddaear: mae'r rhan fwyaf o dir wedi cynhesu'n gyflymach na'r cefnforoedd, ac mae'r Arctig yn cynhesu'n gyflymach na'r rhan fwyaf o'r rhanbarthau eraill.[2] Ar lledredau uchel y tymheredd cyfartalog sy'n cynyddu, tra ar gyfer y cefnforoedd a'r trofannau yn arbennig y glawiad a'r cylch dŵr sy'n newid.[3] Gellir lleihau maint yr effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol trwy liniaru ac addasu i newid hinsawdd.
Mae newid hinsawdd wedi diraddio tir drwy godi tymheredd, sychu pridd a chynyddu’r perygl o danau gwyllt.[4] Mae cynhesu diweddar wedi effeithio'n fawr ar systemau biolegol naturiol.[5] Gwelir fod llawer o rywogaethau ledled y byd yn mudo tuag at ardaloedd oerach. Ar y tir, mae llawer o rywogaethau'n symud i ddrychiadau uwch, tra bod rhywogaethau morol yn ceisio dŵr oerach mewn dyfroedd tyfnach.[6] Aseswyd bod rhwng 1% a 50% o rywogaethau ar dir mewn perygl sylweddol uwch o ddifodi oherwydd newid hinsawdd.[7]
|access-date=
requires |url=
(help)