Un o eglwysi Cristnogol y Dwyrain yw Eglwys Asyriaidd y Dwyrain, yn llawn Eglwys Asyriaidd Catholig Apostolaidd Sanctaidd y Dwyrain. Defnyddir Syrieg yn iaith litwrgïaidd yr eglwys.
Mae Eglwys Asyriaidd y Dwyrain yn honni llinach â'r Eglwys Nestoraidd, yr eglwys gyfundrefnol gyntaf yn y Gristionogaeth, a sefydlwyd ar sail dysgeidiaeth Nestorius yn y 5g. Mae nifer o Asyriaid yn ystyried yr eglwys hon yn eglwys genedlaethol iddynt. Mae nifer o Gristnogion neo-Aramaeg sydd yn aelodau'r Eglwys Gatholig Galdeaidd a'r Eglwys Uniongred Syrieg yn ystyried eu hunain yn Asyriaid hefyd.[1]