![]() Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, gydag Afon Hafren yn y blaendir | |
![]() | |
Math | cadeirlan Anglicanaidd ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerwrangon ![]() |
Sir | Dinas Caerwrangon ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1887°N 2.2208°W ![]() |
Cod OS | SO8500254520 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig, pensaernïaeth Gothig Seisnig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Caerwrangon ![]() |
Cadeirlan Anglicanaidd a leolir yng Nghaerwrangon, Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Dyma sedd esgob Caerwrangon. Priordy ar gyfer Urdd Sant Bened oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe'i dyrchafwyd i statws cadeirlan yn y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i adeiladwyd rhwng 1084 a 1504 a gellir olrhain yno pob cam yn hanes pensaernïaeth Lloegr yn ystod y canrifoedd hynny: yr addull Normanaidd (Romanésg) yn y gladdgell, y cabidyldy cylchog ac ambell i fan arall, a'r tri math o arddull Gothig Seisnig (Cynnar, Addurnedig a Pherpendicwlar). Ceir nifer fawr o gofadeiladau yno gan gerflunwyr a phenseiri megis Jean-François Roubiliac, Joseph Nollekens, Robert Adam a Francis Chantrey. Fe'i adnewyddwyd yn helaeth rhwng 1857 a 1863 gan A. E. Perkins a George Gilbert Scott. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]
Priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yma ar 13 Hydref 1278.