![]() | |
Math | eglwys blwyf Anglicanaidd ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Sefydlwyd | |
Nawddsant | Mererid o Antiochia ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Palas San Steffan ac Abaty Westminster gan gynnwys Eglwys Santes Marged, Westminster ![]() |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.1°W ![]() |
Cod OS | TQ3012479547 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | Gothig Sythlin ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | Mererid o Antiochia ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llundain ![]() |
Eglwys yng nghyffiniau tir Abaty Westminster ar Sgwâr y Senedd (Parliament Square), Westminster, Llundain, yw Eglwys Santes Marged, Westminster.
Sefydlwyd yr eglwys yn y 12g gan Urdd Sant Bened er mwyn i bobl a oedd yn byw ger yr Abaty gael eu plwyf eu hunain. Fe'i hailadeiladwyd o 1486 i 1523, ar anogaeth y Brenin Harri VII, a chysegrwyd yr eglwys newydd, sy'n dal i sefyll heddiw, ar 9 Ebrill 1523.[1]
Ynghyd ag Abaty Westminster a Phalas San Steffan, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd, mae'r eglwys ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1987.[2]