![]() | |
Enghraifft o: | math o adeilad ![]() |
---|---|
Math | eglwys, eglwys Gatholig ![]() |
![]() |
Mae eglwys golegol neu eglwys golegaidd[1] yn eglwys lle cynhelir y gwasanaethau gan goleg o canoniaid, sef cymuned o glerigwyr nad oeddent yn fynachod. Trefnir y gymuned fel corff hunanlywodraethol, a all gael ei lywyddu gan ddeon neu brofost.
O ran ei llywodraethu a'i defodau crefyddol mae eglwys golegol yn debyg i eglwys gadeiriol, er nad yw'n gartref i esgob ac nid oes ganddi esgobaeth. Yn hanesyddol, roedd eglwysi colegol yn aml yn cael eu cefnogi gan diroedd helaeth a ddelid gan yr eglwys, neu gan incwm degwm.
Cyn Diwygiad Lloegr yn nheyrasiad Harri VIII, roedd cryn nifer o eglwysi colegol yn Lloegr a Chymru, ond diddymwyd y rhan fwyaf ohonynt bryd hynny. Yng Nghymru roedd yr eglwysi canlynol yn golegol: